Tai Clwyd

Amdanom Ni

Sefydlwyd Cymdeithas Tai Clwyd ym Mehefin 1974 fel cymdeithas dai elusennol i ddarparu cartrefi ar rent, gyda phwyslais ar gartrefu pobl oedrannus a theuluoedd ifanc.

Ymhen blwyddyn neu ddwy prynwyd llain o dir ym mhentref Llansannan ac erbyn 1979 roedd 8 o dai newydd wedi eu codi a thenantiaid cyntaf y Gymdeithas yn symud i’w cartrefi newydd.

Yn y blynyddoedd cynnar roedd holl waith gweinyddol y Gymdeithas yn cael ei gyflawni yn gwbl wirfoddol gan aelodau y Pwyllgor Rheoli. Erbyn 1982 teimlwyd yn ddigon hyderus i gyflogi dau swyddog llawn amser a phenodwyd John Glyn Jones yn Swyddog Datblygu a Catrin Hughes yn Ysgrifenyddes. Agorwyd swyddfa ar y Stryd Fawr, Dinbych.

Yn ystod yr wythdegau roedd y Gymdeithas yn canolbwyntio ar brynu tai mewn cyflwr gwael, eu hadnewyddu a’u gosod ar rent. Roedd rhain yn aml yn dai teras bach neu yn dai mawr y gellid eu haddasu yn nifer o fflatiau.

Erbyn 1989 roedd gan y Gymdeithas rhyw 200 o dai a chafwyd newid pwyslais. Bu’r 10 mlynedd nesaf yn gyfnod o adeiladu tai newydd yn bennaf, gan gynnwys tai rhanberchnogaeth. Bwriad y tai hyn oedd cynorthwyo pobl ifanc ar incwm isel i brynu tŷ fesul dipyn, gyda’r nod o ddod yn berchnogion llawn fel yr oedd eu sefyllfa ariannol yn caniatáu hynny.

Erbyn 1996 roedd cynllun arall i helpu pobl i brynu, sef Cynllun Cymorth Prynu, ac mae’r Gymdeithas yn parhau i weithredu’r Cynllun hwn.

Yn raddol ehangwyd ardal y Gymdeithas, agorwyd swyddfa yn Y Bala yn 1993 ac erbyn 1997 roedd 1000 o dai a 35 o swyddogion. Roedd y Gymdeithas hefyd wedi sefydlu asiantaeth Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych i gynorthwyo pobl oedrannus a phobl ag anabledd i aros yn eu tai yn lle gorfod mynd i gartref henoed.

Yn 2004, dathlodd y Gymdeithas ei phenblwydd yn 30 oed gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu i nodi’r achlysur.

Erbyn 2011 mae’r Gymdeithas yn rheoli dros 1700 o dai efo 70 o staff. Mae gennym denantiaid ar y Bwrdd Rheoli ac rydym yn gwneud llawer mwy na darparu cartrefi. Credwn ei bod yn bwysig ein bod yn cynorthwyo cymunedau mewn ffyrdd eraill hefyd ac mae gennym swyddogion penodol sy’n gweithio yn y gymuned. Bu’r daith yn un hir ers 1974 ond rydym bellach ar seiliau cadarn ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol.

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30