Tai Clwyd

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Cymdeithas Tai Clwyd yn ymroddi i ddatblygu, sicrhau a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth i bawb yn ein cynhwysedd fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth.

Beth yw cydraddoldeb?
Mae cydraddoldeb yn golygu mynediad teg at wasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth. Nid yw hyn yn golygu trin pawb yr un fath, ond adnabod y gwahaniaethau a chymryd anghenion pawb i ystyriaeth.

Beth yw amrywiaeth?
Mae amrywiaeth yn golygu creu a chynnal diwylliant sy’n ymgeisio i barchu ac i werthfawrogi gwahaniaeth. Golyga hyn barchu hawliau eraill a hybu cydraddoldeb a goddefgarwch ymysg gwahanol gymunedau.

Darparu gwasanaeth ardderchog
Er mwyn gallu darparu gwasanaeth ardderchog i bawb, rydym yn cydnabod y dylai gwasanaethau gael eu hadeiladu o amgylch dadansoddiad cadarn a dealltwriaeth o wahanol anghenion i sicrhau bod ein gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau yn hygyrch ac yn cael eu cyflwyno er lles pawb.

Goddef Dim
Rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau yn fwy tebygol o gael eu gwahaniaethu yn ei herbyn. Gall hyn fod ar sail oedran, anabledd, ailgyfeiriad cenedl, partneriaethau a phriodasau sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, gogwydd rhywiol, neu briodoleddau personol arall. Rydym wedi’n hymrwymo i beidio â goddef dim ac i ddileu pob ffurf o wahaniaethu annheg ac i hybu cydraddoldeb ymysg staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Gweithio mewn partneriaeth
Rydym yn aelodau o Bartneriaeth Cydraddoldeb Gogledd Cymru (BCLGC), partneriaeth o Gymdeithasau Tai wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru, sef Cymdeithas Tai Eryri, Tai Gogledd Cymru, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn (aelod o Grŵp Tai Pennaf) a Chymdeithas Tai Wales & West. Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru (RhCHGC) hefyd yn aelod o’r Bartneriaeth.
Rydym hefyd yn aelodau o Tai Pawb, mudiad sy’n hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym myd tai yng Ngogledd Cymru. Mae Tai Pawb yn credu bod gan bob person yr hawl i fynediad at dai o ansawdd da mewn cymunedau cydlynol a diogel.

Gallwch lawrlwytho crynodeb o Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymdeithas Tai Clwyd ar waelod y tudalen yma. Mae’n amlinellu’n ymroddiad i ddarparu cydraddoldeb o gyfle a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Mae Asesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC) yn arf rydym yn ei ddefnyddio i adnabod yr effaith gall ein polisïau, ein gwasanaethau a’n gweithrediadau ei gael ar ein defnyddiwr gwasanaeth a’n staff. Disgwylir y bydd asesiad effaith cydraddoldeb yn cael ei gwblhau ar bob polisi newydd neu wrth adolygu polisi, ac fe’i hystyrir ar bob datblygiad neu newid i eiddo. Gallwch lawrlwytho’r rhestr ar waelod y tudalen yma.

Gwybod pwy yw ein tenantiaid
Mae’n bwysig ein bod yn dod i wybod mwy amdanoch chi, a bod yr wybodaeth sydd gennym yn gyfredol a’n bod yn gallu teilwra’n gwasanaethau i gwrdd â’ch gofynion. Os nad ydych wedi cwblhau’r wybodaeth yma neu os yw’ch amgylchiadau wedi newid, cwblhewch y ffurflen “Deall ein Preswylwyr” – gallwch ei lawrlwytho ar waelod y tudalen yma

Lawrlwytho

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30