Tai Clwyd

Y Tîm Rheoli

Y Tîm Rheoli, sy’n cynnwys y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr, sy’n gyfrifol am reoli’r Gymdeithas o ddydd i ddydd mewn ffordd sy’n gyson â’r amcanion, canllawiau a’r hawliau a ddirprwywyd iddynt gan y Bwrdd Rheoli.

Alwyn Llwyd //

Prif Weithredwr

Penodwyd Alwyn Llwyd yn Brif Weithredwr y Gymdeithas yn 2007. Cyn ymuno â’r Gymdeithas, bu’n gweithio yn Luxembourg ac ym Mrwsel am chwarter canrif cyn dod yn ôl i Gymru.

Y Prif Weithredwr sy’n goruchwylio, cyfarwyddo a chynghori’r Cyfarwyddwyr Adran, ac sy’n gyfrifol am wasanaethu’r Bwrdd Rheoli.

Noela Jones //

Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau

Penodwyd Noela yn Gyfarwyddwr Tai a Chymunedau yn 2008, yn dilyn dyrchafiad mewnol o’i swydd blaenoraol fel Rheolwr Tai gyda’r Gymdeithas.

Mae Noela yn gyfrifol am reolaeth tai, casglu rhent, tai a chefnogaeth, cartrefi fforddiadwy, datblygu cymunedol, sydd yn cynnwys gwasanaeth Bus Stop a Gweithiwr Allanol Digarerefedd Conwy, ynghyd a gwasanaeth Gofal a Thrwsio Sir ddinbych.

Mae Noela wedi cymwyso gyda Diploma Olradd mewn Astudiadau Tai, a chyda gradd BA mewn Gweinyddiaeth. Mae’n aelod corfforaethol o’r Sefydliad Tai .

Rhys Dafis //

Cyfarwyddwr Eiddo

Dechreuodd Rhys yn ei rôl ym mis Ebrill 2011, gan ddychwelyd hefyd i’w wreiddiau yn Llansannan ger Dinbych wedi bron i 30 mlynedd yn byw a gweithio yng ngorllewin Cymru ac yn fwy diweddar yng Nghaerdydd. Mae’r gŵr priod, sy’n dad i dri o blant yn falch iawn o ddychwelyd adref:
“Dw i wedi bod yn hynod lwcus i dderbyn y swydd hon, a dwi wrth fy modd cael bod nôl yma yn gweithio i sefydliad sydd wedi gwneud cymaint dros yr ardal leol,” eglura Rhys. “Mi sefydlwyd Tai Clwyd yn y saithdegau pan roedd galw mawr am dai fforddiadwy yn lleol. Er bod y Gymdeithas wedi darparu dros 1800 o gartrefi ers hynny, mae’r angen am dai yr un mor anghenus heddiw. Mewn ffordd dwi’n parhau gyda’r hyn y cychwynnais i dros 30 mlynedd yn ôl, ac mae’n sialens gyffrous iawn!”

Bryn Ellis //

Cyfarwyddwr Adnoddau

Penodwyd Bryn fel Cyfarwyddwr Cyllid i’r Gymdeithas yn 1999 a bellach mae’n gyfrifol am y swyddogaethau Adnoddau Dynol, Cyllid, Gwasanaethau Cefnogol a Systemau Gwybodaeth..

Cyn ymuno â’r Gymdeithas, bu Bryn yn Uwch Archwilydd mewn practis o gyfrifwyr preifat .
Mae Bryn wedi rhan gymhwyso efo’r Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru ac mae ganddo BSc (Anrh.) mewn Cyfrifeg ac Economeg.

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30