Tai Clwyd

Y Bwrdd

Mae pob aelod o’r Bwrdd Rheoli wedi arwyddo datganiadau yn cadarnhau eu bod yn gweithredu bob amser er budd y Gymdeithas a’r tenantiaid. Me nhw’n gwneud hyn yn ddi-dâl ac yn ymarfer yr un gofal am waith y Gymdeithas ag y bydden nhw wrth ofalu am eu busnes eu hunain.

Merfyn Roberts //

Cadeirydd y Gymdeithas a Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ymunodd â’r Bwrdd yn 2003. Wedi ymddeol wedi cyfnod o dros 30 mlynedd mewn llywodraeth leol gyda’r gwasanaethau cymdeithasol. Bu’n bennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid o fewn adran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych. Mae’n cynrychioli’r Gymdeithas ar Bwyllgor Ymgynghorol Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych.

Huw Ellis //

Is-Gadeirydd

Wedi ei gyfethol i’r Bwrdd yn Tachwedd 2009 yn dilyn proses hysbysebu ac wedi ei ethol yn aelod llawn yn Gorffennaf 2010. Rheolwr Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith, Prifysgol Bangor.

John Arthur Jones //

Cadeirydd y Pwyllgor Adnoddau

Mae’n aelod o’r Bwrdd ers 1983 ac wedi treulio 2 gyfnod fel Cadeirydd y Gymdeithas. Swyddog banc wedi ymddeol.

Elwyn Edwards //

Bu’n aelod o’r Bwrdd ers dros 20 mlynedd. Mae’n Swyddog Datblygu i gwmni cyhoeddi elusennol. Mae’n Gynghorydd ar Gyngor Gwynedd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Parc Cenedlaethol Eryri.

Alan Fitton //

Wedi ei gyfethol i’r Bwrdd yn Tachwedd 2009 yn dilyn proses hysbysebu ac wedi ei ethol yn aelod llawn yn Gorffennaf 2010. Prif Weithredwr Fuel Link Services Ltd.

Elizabeth Snowden //

Cafodd ei chyfethol ar y Bwrdd yn 2004 a’i hethol yn aelod llawn yn 2006. Cyn ymddeol yr oedd yn ddirprwy gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. Is-Gadeirydd y Pwyllgor Tai.

Elen Thomas //

Ymunodd â’r Bwrdd yn 1993 ac mae hi’n gyn-gadeirydd y Gymdeithas. Cyn ymddeol yn 2009, roedd yn cael ei chyflogi gan Gyngor Gwynedd fel arweinydd tîm yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol gan asesu a threfnu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn.

Cefyn H. Williams //

Ymunodd â’r Bwrdd yn 1987. Gweithiwr ffatri wedi ymddeol. Cynghorydd Sir Ddinbych. Mae’n cynrychioli’r Gymdeithas ar Bwyllgor Ymgynghorol Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych ac yn gadeirydd y Pwyllgor. Mae’n cynrychioli’r Gymdeithas ar Bwyllgor Llywio Hwylusydd Tai Gwledig.

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30