Hygyrchedd
Rydym wedi ceisio gwneud ein safle newydd mor ddefnyddiadwy â phosib gan ddilyn safonau a chanllawiau a bennwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-eang (W3C) yn eu Menter Hygyrchedd y We. Mae hyn yn golygu bod pob defnyddiwr yn mwynhau gwasanaeth o’r un safon, os oes modd.
Cydymffurfiad â Safonau’r We
Bydd y rhan fwyaf o dudalennau yn cydymffurfio â holl ganllawiau blaenoriaeth 1 a 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C.
Mae’r holl dudalennau eraill yn bodloni canllawiau blaenoriaeth 1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C.
Mae’r holl dudalennau yn dilysu fel XHTML 1.0 Trawsnewidiol.
Dyluniad gweledol
Bydd y safle yn defnyddio dalenni sy’n rhaeadru ar gyfer gosodiad gweledol, sy’n golygu mwy o ddefnyddioldeb i dechnoleg gynorthwyedig.
Dim ond maint ffont cymharol y bydd y safle’n ei ddefnyddio, sy’n gydnaws â’r opsiwn “maint testun” a bennir gan y defnyddiwr mewn porwyr gweledol.
Os nad yw eich porwr neu ddyfais bori’n cynnal dalenni steil o gwbl, bydd cynnwys pob tudalen yn “diraddio’n osgeiddig” fel bod modd ei ddarllen o hyd.
Dolenni
Mae gan ddolenni briodoleddau teitl sy’n disgrifio’r ddolen yn fwy manwl, oni bai fod testun y ddolen eisoes yn disgrifio’r targed yn llawn. Os ydych yn defnyddio llygoden, neu ddyfais bwyntio arall, gellir gweld y rhain drwy hofran dros destun y ddolen.
Ffenestri naid
Defnyddiwyd cyn lleied â phosib o ffenestri naid ar y safle hwn. Os yw dolen yn agor ffenestr porwr newydd yna eglurir hyn ym mhriodoledd teitl y ddolen.
Newid gosodiadau eich porwr
Mae modd newid ffontiau a lliwiau a ddefnyddir drwy’r safle drwy gael dolenni dalen steil wedi’u galluogi ar y safle


