Gweithiwr Allanol i'r Ieuenctid Digartref
Digartrefedd yw’r ffurf fwyaf eithafol o allgau cymdeithasol, a gall gael effaith niweidiol ar berson ifanc. Nôd y prosiect yw cefnogi a rhoi grym i bobl ifanc wneud penderfyniadau deallus a phositif, a’u cynnwys hwy wrth ddylanwadu ar y systemau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.
Cychwynnodd Gemma Levey weithio i’r Gymdeithas ym mis Mai 2009 fel Gweithiwr Allanol i’r Ieuenctid Digartref, ac mae’n rhan o’r Tîm Datblygu Cymunedol. Mae’r swydd hon yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (Cymhorthdal Adran 180) ac yn cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae gan y prosiect ddau brif amcan. Y cyntaf yw annog pobl ifanc, trwy fethodoleg datblygu cymunedol, i ryngweithio gydag asiantaethau megis Y Gwasanaeth Ieuenctid, Yr Heddlu, Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdurdodau / Cymdeithasau Tai a phrosiectau cymunedol eraill. Gall partneriaethau o’r fath annog pobl ifanc i drafod materion sydd o bwys iddynt, dylanwadu ar benderfyniadau, a hyrwyddo cyfranogiad ac ymarfer da.
Yr ail yw gwasanaeth ataliol addysgiadol a gynigir i Ysgolion, Colegau a sefydliadau ieuenctid lleol. Mae’r Swyddog Allanol yn gallu darparu sesiynau deinamig a hyblyg gan ddefnyddio adnodd ‘Housemate’ Shelter Cymru, i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion digartrefedd ieuenctid.
Digartrefedd yw’r ffurf fwyaf eithafol o allgau cymdeithasol, a gall gael effaith niweidiol ar berson ifanc. Nod y prosiect yw cefnogi a rhoi grym i bobl ifanc wneud penderfyniadau deallus a phositif, a’u cynnwys hwy wrth ddylanwadu ar y systemau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.


