Cynlluniau Cartrefi Fforddiadwy
Mae Tai Clwyd yn gweinyddu nifer o gynlluniau a all eich helpu i brynu neu rentu cartref, ac yn cynnig cymorth i deuluoedd trwy’r cynllun achub morgais.
Cymorth Prynu
Mae Cymorth Prynu yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n cael ei oruchwylio yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid yn gyfyngedig, ar hyn o bryd dim ond yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mae cyllid cymorth prynu ar gael. Nid yw cyllid ar gael ar hyn o bryd i siroedd Wrecsam, Fflint a Dinbych, fodd bynnag gall hyn newid fel y bydd y flwyddyn ariannol yn symud ymlaen. Darllen Mwy …
Rhan Ecwiti
Cynigir rhan ecwiti fel arfer ar eiddo newydd sbon a brynir yn uniongyrchol gan ddatblygwr, neu eiddo ail-law a brynwyd yn y gorffennol trwy rhan ecwiti gan ddatblygwr. Weithiau, cynigir rhan ecwiti gan gymdeithasau tai neu awdurdodau lleol ar eu heiddo eu hunain. Darllen Mwy …
Rhanberchnogaeth
Fel arfer, cyfeirir at rhanberchnogaeth fel “prynu’n rhannol, rhentu’n rhannol”. Rydych chi’n prynu siâr o eiddo y mae Tai Clwyd yn ei berchen ac yn talu rhent i Tai clwyd ar y siâr nad ydych yn ei berchen. Darllen Mwy …
Gwybodaeth Bwysig i Bob Cynllun :
COSTAU PRYNU
Mae’n bwysig ystyried costau prynu eich cartref eich hun ynghyd â chostau sydd ynghlwm â bod yn berchen ar eiddo.
COSTAU CYCHWYNNOL
Mae’n debyg y byddwch angen isafswm o £2,000 i gwrdd â’r costau. Mae costau yn amrywio rhwng cyfreithwyr a benthycwyr morgais.
Ffioedd Cyfreithiol:
Ffi Cyfreithwyr: mae hyn ar gyfer gwaith cyfreithiol sylfaenol a wneir ar eich rhan chi a’ch benthyciwr morgais.
Ffi Cofrestrfa Tir: er mwyn eich cofrestru ar y Gofrestrfa Tir fel perchennog eich cartref ac unrhyw forgeisi neu fenthyciadau (a elwir yn Arwystl) a gymerwyd allan i’w brynu.
Ffi Archwiliad Amgylcheddol: mae hyn yn dangos unrhyw geisiadau cynllunio a wnaed ar yr eiddo yr ydych chi’n ei brynu a hefyd unrhyw ddatblygiadau a gynllunnir a all gael effaith ar eich cartref.
Taliadau: bydd yn rhaid i chi dalu costau i’ch cyfreithiwr am unrhyw waith gweinyddol a wneir ar eich rhan chi a’ch benthyciwr morgais. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau methdaliad neu ffioedd trosglwyddiad telegraffig.
Stamp doll: mae prynwyr am y tro cyntaf wedi eu heithrio rhag talu stamp doll hyd at 24 Mawrth 2012 os ydych yn prynu eiddo o dan £250,000, ar ôl 24 Mawrth 2010 bydd yn rhaid i chi dalu stamp doll o 1% ar unrhyw eiddo dros £125,000, fodd bynnag, mae rhai ardaloedd wedi eu heithrio rhag stamp doll.
Costau Morgais ac arolwg:
Blaendal: 5% ar y % siâr yr ydych yn ei brynu.
Ffi Trefnu Morgais: mae’r rhan fwyaf o fenthycwyr yn codi ffi weinyddol. Fel arfer, mae’r ffi yn amrywio yn unol â’r math o forgais yr ydych yn ei ddewis. Dim ond un ffi fydd yn rhaid i chi ei dalu. Os ydych chi’n defnyddio Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol ni ddylent godi ffi ar wahân gan y byddant hwy yn cael eu talu gan y benthyciwr morgais sy’n darparu’r morgais i chi.
Ffi Prisiad ac Arolwg: pa bynnag fath o eiddo yr ydych chi’n brynu, bydd eich benthyciwr morgais yn gofyn i chi drefnu arolwg prisiad fel y gallant fod yn sicr fod yr eiddo yn addas i fenthyg yn ei erbyn.
Costau o fod yn berchennog:
- Ad-daliadau morgais (a rhent ar cynllun rhanberchnogaeth)
- Taliadau amddiffyn morgais rhag anghyflogaeth neu salwch
- Yswiriant bywyd
- Yswiriant Adeilad a Chynnwys (cynnwys yn unig ar gynllun rhanberchnogaeth)
- Trwsio a chynnal a chadw
- Taliadau gwasanaeth os yn prynu fflat
- Gwasanaethau – nwy, trydan, dŵr, treth y cyngor a.y.b.
- Treth y Cyngor – os mai dim ond un oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, gallwch hawlio disgownt o 25% oddi ar eich bil treth flynyddol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gostau rhedeg cartref yr ydych yn berchen arno mewn nifer o gylchgronau a llyfrau defnyddwyr a hefyd ar y we. Dyma rai enghreifftiau o wefannau defnyddiol:
http://www.yourmoney.moneyadviceservice.org.uk
http://www.thisismoney.co.uk
http://www.slhdmoneywise.co.uk
http://www.moneysavingexpert.com
http://yourmoney.moneyadviceservice.org.uk/tools/mortgage_calculator.html
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn derbyn cyngor morgais annibynnol gan Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol, fodd bynnag, gweler ein hawgrymiadau isod.
GWNEUD CAIS AM FORGAIS
Mae morgais yn fenthyciad sy’n cael ei warantu yn erbyn eich eiddo. Fel arfer, byddwch yn ad-dalu eich morgais tros gyfnod o 25 neu 30 mlynedd. Os nad ydych yn cynnal eich taliadau, gall y benthyciwr morgais werthu eich cartref er mwyn cael ei arian yn ôl.
Mae’n rhaid i’r morgais fod gan gymdeithas adeiladu, banc, cymdeithas gyfeillgar neu gwmni yswiriant. Ni ddylai’r ymgeisydd ymrwymo i unrhyw beth sy’n arwain at gostau ariannol wrth gymryd camau i sicrhau morgais nes bo’r benthyciwr sy’n cynnig darparu’r morgais wedi cadarnhau ei fod yn un o’r mathau hyn o fenthyciwr.
Mae’n rhaid i’r morgais fod o fath ad-daliad (nid llog yn unig). Mae gwahanol fathau o forgeisi ar gael:
- Morgais cyfradd amrywiol safonol
- Morgais cyfradd sefydlog
- Morgais tracio cyfradd sylfaenol
- Morgais cyfradd amrywiol gostyngol
Gweler isod gyngor defnyddiol ynglŷn â gwneud cais am forgais.
Er mwyn cael syniad o ad-daliadau morgais misol, mae nifer o gyfrifianellau morgais ar-lein, megis http://yourmoney.moneyadviceservice.org.uk/tools/mortgage_calculator.html
CYNGOR YNGLŶN Â GWNEUD CAIS AM FORGAIS
PEIDIWCH Â BENTHYG GORMOD
Bydd ceisio benthyg mwy na’r hyn sy’n realistig yn oedi’r broses ymgeisio a gall arwain at i’ch cais gael ei wrthod. Mae gan y rhan fwyaf o fenthycwyr gyfrifiannell fforddiadwyedd ar eu gwefannau, a rydd yn rhoi bras ganllawiau i chi ynglŷn â faint allwch chi fenthyg. Nid oes angen i chi ddarparu eich enw a’ch cyfeiriad, ond mae’n rhaid i chi nodi manylion personol ynglŷn â faint yr ydych yn ei ennill ac unrhyw daliadau sydd gennych, megis benthyciadau a thaliadau cardiau credyd.
Mae nifer o fenthycwyr yn edrych ar fodel fforddiadwy, yn hytrach na lluosi’n syml eich incwm. Mae ad-daliadau cardiau credyd a benthyciad yn effeithio’r swm y gallwch ei fenthyg. Anelwch i dalu eich dyledion presennol, yn arbennig dyledion cardiau credyd cyn gwneud cais am forgais.
EGLURWCH UNRHYW ANGHYSONDEBAU AR EICH DATGANIAD BANC
Bydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn archwilio eich datganiadau banc yn fanwl. Gall methu taliad neu dalu’n hwyr neu weithgaredd anarferol arwain at wrthod eich cais ar unwaith. Os oes angen egluro unrhyw beth nad oedd yn fai arnoch chi, gofynnwch am lythyr gan y partïon perthnasol.
BYDDWCH YN DREFNUS GYDA’CH GWAITH PAPUR
Cadwch ddatganiadau banc, slipiau cyflog yn ofalus. Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am o leiaf tri mis o slipiau cyflog a thri mis o ddatganiadau banc. Nid yw datganiadau banc ar-lein yn dderbyniol oherwydd fe ellir ei addasu’n hawdd; felly mae’n rhaid i chi ofyn am gopïau caled gan eich banc. Byddwch hefyd angen prawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad. Os yw’r benthyciwr yn gofyn am ddogfennau penodol, ceisiwch anfon popeth gyda’i gilydd gyda’r ffurflen gais er mwyn osgoi dryswch.
SICRHEWCH EICH BOD YN DARPARU PRAWF O FLAENDAL
Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am flaendal o 5%, po fwyaf yw’r blaendal sydd gennych, gorau fydd cyfradd llog eich morgais. Efallai na fydd dangos fod gennych arian yn eistedd yn y banc yn ddigon i bob benthyciwr, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu prawf o sut ydych chi wedi casglu’r blaendal.
Cwblhewch lwybr papur o ble rydych chi wedi casglu’r blaendal, neu amgaewch lythyr os yw’r arian yn anrheg gan aelod o’r teulu. Mae hyn yn profi i’r benthyciwr eich bod wedi cynilo/ennill yr arian neu wedi ei dderbyn fel anrheg, nid wedi ei fenthyg.
BYDDWCH YN ONEST YNGLŶN Â’CH INCWM A’CH BONWS
Dylai’r incwm sy’n cael ei nodi ar eich ffurflen gais fod yn union yr un fath â’r hyn a nodir ar eich slipiau cyflog a P60. Os ydych chi’n dibynnu ar incwm sydd uwchlaw eich cyflog sylfaenol, megis taliadau bonws neu gomisiwn, dylai fod yn eglur ar eich slipiau talu a’ch P60. Nid yw nifer o fenthycwyr yn cynnwys bonws blynyddol wrth gyfrifo incwm, felly mae’n rhaid i incwm ychwanegol fod yn rheolaidd os yw am gael ei ystyried.
GWIRIWCH EICH ADRODDIAD CREDYD A’CH BOD AR Y GOFRESTR ETHOLIADOL
Bydd benthycwyr yn gwirio eich adroddiad credyd yn fanwl, a bydd y ddogfen hon hefyd yn dangos a ydych ar y gofrestr etholiadol. Os nad ydych ar y gofrestr ac os oes gennych raddfa credyd gwael, efallai na fydd modd i chi gael morgais.
Os oes unrhyw gamgymeriadau ar eich adroddiad credyd, gallwch gofnodi rhybudd o gywiriad. Gallwch gael mynediad i’ch adroddiad credyd trwy unrhyw un o’r asiantaethau credyd: Experian, Equifax a Callcredit. Er mwyn darganfod a ydych chi ar y gofrestr etholiadol, gofynnwch yn eich Cyngor lleol. Gallwch hefyd gofrestru ar lein trwy fynd i: aboutmyvote.co.uk.


