Tai Clwyd

Gofal Ychwanegol

Mae gan Tai Clwyd ddau gynllun tai gofal ychwanegol newydd.

Agorodd Llys Awelon yn Rhuthun ei drysau ym mis Hydref 2011, ac mae’n gynllun o 21 o unedau, 18 o fflatiau 2 lofft a 3 o fflatiau 1 llofft. Mae’r datblygiad £5.2 miliwn, a dderbyniodd dros £3 miliwn o grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys bwyty, ystafelloedd Technoleg Gwybodaeth a salon therapi / trin gwallt.


Fflat arddangos yn Llys Awelon, Rhuthun


Bydd Awel y Coleg yn Y Bala yn agor ym mis Medi 2012, ac yn cynnwys 30 o unedau, 23 o fflatiau 2 lofft a 7 o fflatiau 1 llofft. Bydd y cynllun £6.5 miliwn y cyntaf o’i fath yng Ngwynedd.

Cynhaliwyd nifer o ddiwrnodau agored yn Y Bala er mwyn darparu gwybodaeth ynglŷn â chynllun Awel y Coleg, yn cynnwys cyfle i ymweld â’r cyfleusterau sydd yn Llys Awelon, Rhuthun.


Diwrnod Agored Awel y Coleg


Bydd mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol agos, os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad yn y dyfodol, cysylltwch â swyddfa Bala am fwy o wybodaeth. Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon.

Agoriad Swyddogol Llys Awelon 01.03.2012


Beth yw tai gofal ychwanegol?
Tai gofal ychwanegol yw darpariaeth tai sy’n darparu ar gyfer pobl sy’n awyddus i fyw yn annibynnol, ond gyda’r fantais o gael tîm gofal ar y safle. Mae hyn yn ddewis amgen i ofal preswyl i lawer o bobl. Mewn cynllun tai gofal ychwanegol byddwch yn cadw eich annibyniaeth, tra’n elwa o ddarpariaeth gofal hyblyg, y gellir ei deilwra i weddu eich anghenion wrth iddynt newid. Bydd hyn yn ymestyn eich annibyniaeth ac yn darparu cartref am oes i chi.

Mae Tai Gofal Ychwanegol yn wahanol oherwydd:

  • Byddwch yn byw yn eich cartref eich hun – nid mewn cartref preswyl
  • Bydd gennych chi eich drws ffrynt eich hun – chi sy’n penderfynu pwy sy’n dod i mewn
  • Gall parau a ffrindiau aros gyda’i gilydd
  • Bydd pobl â lefelau anghenion gofal amrywiol yno
  • Bydd gwasanaethau gofal a chefnogaeth ar gael ar safle – os oes eu hangen arnoch chi (cynhelir asesiad gofal)
  • Byddwch yn cael cymorth i gadw eich annibyniaeth
  • Cewch gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Chi fydd yn rheoli eich arian
  • Byddwch yn teimlo’n ddiogel ac yn dawel eich meddwl
  • Mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn

Pwy fydd yn cael eu hystyried?
Mae polisïau dyrannu gwahanol i’r ddau gynllun, ond yn gyffredinol, bydd gan denantiaid gwahanol lefelau o anghenion gofal. Lawrlwythwch y ddogfennau isod os gwelwch yn dda i gael gwybodaeth bellach.

Sut mae gwneud cais?
Lawrlwythwch y ffurflen gais isod, ei hargraffu , a’i gyrru nôl atom, neu cysylltwch â‘r swyddfa am ffurflen gais.

Lawrlwytho

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30