Rhent Cymdeithasol
Mae gan Gymdeithas Tai Clwyd stoc o dai, byngalos a fflatiau o fewn ardal eang yn Sir Ddinbych, Gwynedd, Fflint, Wrecsam, Conwy a Phowys. Mae dwy swyddfa yn gofalu am yr ardaloedd, sef y brif swyddfa yn Ninbych a swyddfa ardal yn Y Bala.
Am fwy o fanylion ynglŷn â‘r math o eiddo sydd gennym fesul ardal a’r broses ymgeisio, gweler y daflen “Gwybodaeth i Ymgeiswyr” neu’r “Cylchlythyr Ymgeiswyr”, gallwch eu lawrlwytho ar waelod y dudalen yma.
Mae Cymdeithas Tai Clwyd yn ceisio dyrannu ei heiddo i ymgeiswyr ar y rhestr aros mewn modd sydd mor deg â phosibl, gan sicrhau cydraddoldeb i bob ymgeisydd.
Os ydych am wneud cais am eiddo rhent, gallwch wneud hynny drwy gwblhau ffurflen gais i fod ar y rhestr aros. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais ar waelod y dudalen yma neu gysylltu hefo ni trwy ffôn neu e-bost i ddebyn pecyn yn y post.


