Tai Clwyd

Cofrestrwch ddiddordeb mewn Perchnogaeth Cartref Fforddiadwy

Mae Tai Clwyd yn gweinyddu Cofrestr Perchnogaeth Cartref Fforddiadwy ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gwnewch Gais Ar-Lein Nawr

Nod y cofrestrau yw rhoi cyfleoedd i breswylwyr o’r pedair Sir sy’n ei chael hi’n anodd i gymryd eu cam cyntaf tuag at berchnogaeth cartref, gofrestru eu diddordeb mewn eiddo fforddiadwy newydd gan ddatblygwyr neu eiddo fforddiadwy a ail-werthir gan berchnogion preifat am bris fforddiadwy.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael mynediad i berchnogaeth cartref fforddiadwy, mae’n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb trwy gwblhau ffurflen gais Cymerwch y Cam Cyntaf Tuag At Berchnogaeth Cartref Fforddiadwy. Ffurflen gyffredin sy’n eich galluogi i gofrestru ar draws y pedair Sir yw hon. Dim ond gyda Tai Clwyd yn unig y bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb, a bydd eich manylion cyswllt yn cael ei rannu gyda’r sefydliadau partner sydd wedi arwyddo i’r gofrestr

Mae’r ffurflen gais wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phedwar awdurdod lleol, pump cymdeithas dai a deuddeg datblygwr sydd yn darparu cyfleoedd perchnogaeth cartref fforddiadwy ar draws y pedair sir.


Defnyddiwch y dudalen Chwilio am Gartref Fforddiadwy i ddarganfod cartrefi sydd ar gael

Pwy all gofrestru?

  • Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu hŷn, ac mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn pan yn prynu.
  • Unrhyw berson sy’n dal passport y DU neu’r UE/EAA neu sydd â “caniatâd amhenodol i aros” wedi ei stampio ar eu pasport
  • Mae’n rhaid i chi allu dangos nad ydych chi’n gallu prynu cartref heb gymorth.
  • Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ac yn gallu cael mynediad i forgais.
  • Pan ddaw eiddo ar gael, mae’n rhaid i chi fod â digon o gynilion i dalu am flaendal, a chostau sy’n gysylltiedig â phrynu cartref.
  • Os ydych chi eisoes yn berchen ar gartref, gallwch gofrestru os nad ydych yn gallu prynu cartref arall addas e.e.
    Angen eiddo mwy oherwydd cynnydd ym maint y teulu
    Angen eiddo sydd yn fwy addas oherwydd bod gan aelod o’r cartref anabledd, ac nid yw eich cartref presennol yn addas i anghenion y person.
    Yn gorfod gwerthu’r cartref priodasol o ganlyniad i dor-perthynas.
    Symud oherwydd gwaith
    Person hŷn yn byw mewn eiddo sy’n anaddas, ond nid yw elw’r gwerthiant yn ddigon i brynu eiddo arall.
    Myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth (ni fyddant yn cael cynnig eiddo heb dystiolaeth o’u gallu i brynu)

Pwy sydd ddim yn gymwys i gofrestru?

  • Unrhyw berson sydd ddim yn dal passport y DU neu’r UE/EAA neu sydd ddim â “caniatâd amhenodol i aros” wedi ei stampio ar eu pasport
  • Buddsoddwr prynu i osod.
  • Rydych eisoes yn berchen ar gartref sy’n addas i’ch anghenion.
  • Ni allwch gael morgais e.e. nid ydych mewn gwaith, mae gennych gyfradd credyd gwael, fe’ch cyhoeddwyd yn fethdalwr o fewn y 6 mlynedd diwethaf neu mae eiddo yr oeddech yn ei berchen yn flaenorol wedi ei adfeddiannu.
  • Rydych yn hunangyflogedig ac nid oes gennych:
    Gyfrifon archwiliedig ar gyfer y 2 flynedd diwethaf, neu
    Gopïau o’ch dychweliadau treth am y 2 flynedd diwethaf

Dewis Arall I Berchnogaeth Cartref Fforddiadwy – Rhent Fforddiadwy

Os nad ydych yn gallu cael mynediad i berchnogaeth cartref ar hyn o bryd, oherwydd nad ydych yn gallu cael mynediad i forgais, nid oes gennych gynilion digonol, neu nid yw eich cyflogaeth yn ddiogel, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn eiddo rhent fforddiadwy (rhent canolraddol).

Mae’r eiddo hyn ar gyfer ymgeiswyr sydd mewn cyflogaeth ac ar gyflog blynyddol eithaf da. Mae rhent yr eiddo yn uwch nag eiddo rhent cymdeithasol, ond oddeutu 20% yn llai nag eiddo rhent marchnad leol, a fydd yn eich galluogi i gynilo am flaendal tuag at brynu.
Efallai y bydd rhai eiddo rhent fforddiadwy ar gael i brynu yn ddiweddarach.

I gofrestru, cysylltwch â Thîm Cartrefi Fforddiadwy Cymdeithas Tai Clwyd ar 0345 2303140 neu e-bostio taifforddiadwy@taiclwyd.com i ofyn am ffurflen gais, neu lawrlwythwch ffurflen gais isod, ei hargraffu a’i gyrru yn ôl atom.

http://www.wrecsam.gov.uk
http://www.sirddinbych.gov.uk
http://www.conwy.gov.uk
http://www.siryfflint.gov.uk
http://www.clwydalyn.co.uk
http://www.nwha.org.uk
http://www.wwha.net
http://www.cartreficonwy.org
http://www.taiclwyd.com

Lawrlwytho

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30