Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae gan Gymdeithas Tai Clwyd Bolisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sydd yn cynghori ein tenantiaid sut y bydd y gymdeithas yn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) yw “ymddygiad sy’n achosi, neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i unrhyw berson nad yw o’r un cartref.” (Deddf Trosedd ac Anrhefn 1988)
Esiamplau o ymddygiad y gellir eu disgrifio fel YG:
- fandaliaeth, graffiti neu dipio anghyfreithlon
- niwsans sŵn
- ymddygiad dychrynu neu fygythiol
- trais geiriol
- aflonyddwch hiliol
- trosedd cerbydau
- camddefnyddio tân gwyllt
- ymddygiad iobaidd a grwpiau dychrynu
Nid yw hon yn rhestr lawn, ac fe ellir diffinio mathau eraill o ymddygiad fel YG.
Rydym wedi arwyddo i Safon Llywodraeth Cymru – ymgyrch cenedlaethol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i geisio darganfod beth sydd y tu cefn i hyn. Gallwch lawr lwytho copi o’r safon ar waelod y dudalen hon, ynghyd â Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Tai Clwyd.
Bydd unrhyw fodd o aflonyddwch, camddefnydd geiriol neu gorfforol yn cael ei ystyried yn gamau difrifol. Ni allwn dderbyn unrhyw fodd o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cartrefi.
Beth allwch chi wneud?
Dangos parch ac ystyriaeth i’ch cymdogion bob amser:
- cadw’r sŵn o’ch system gerddoriaeth, teledu a radio ar lefel rhesymol bob amser
- rhoi gwybod i’ch cymdogion pan rydych yn bwriadu cael parti, bydd y rhan fwyaf o bobl yn deall eu bod yn debygol o brofi rhywfaint o sŵn, ond gwnewch beth allwch chi i osgoi eu tramgwyddo trwy gadw sŵn a lefelau cerddoriaeth i’r isafswm, a rheoli eich ymwelwyr.
Rydym am i bobl ein cynorthwyo ni i gymryd safiad yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os ydych chi’n cael problemau, gwnewch beth allwch chi yn y lle cyntaf – er enghraifft, gofyn i gymydog gadw’r sŵn i lawr yn hwyr yn y nos. Ond os yw’r problemau yn parhau, neu yn fwy difrifol, dylech adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol, oherwydd fe allwn ni eich helpu.
Beth allwn ni ei wneud?
Os ydych chi’n gwneud cwyn, byddwn ni’n gwneud ein gorau i’ch helpu – dyma ein hymrwymiad i chi. Mae gennym daflen wybodaeth sy’n egluro’r camau y dylid eu cymryd, a rhestr wirio syml i chi ei dilyn – gallwch lawr lwytho’r daflen ar waelod y dudalen hon.
Fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i’ch gwarchod chi rhag aflonyddwch, niwsans a phoen, lle mae gennym brawf o hynny. Rydym yn chwarae rôl bwysig, yn gweithio gyda’r gymuned, yr heddlu a gwasanaethau eraill. Gallwn gynorthwyo i warchod cymunedau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rhwystro rhag iddo ddigwydd yn y lle cyntaf.
Os nad ydym yn delio â phroblemau yn gyflym, mae’r rhai sy’n achosi trwbl yn credu y gallant wneud fel y mynnant. Mae’n rhaid i ni rybuddio pobl yn glir am eu hymddygiad a gweithredu’n gyflym os nad ydynt yn newid. Byddwn yn defnyddio’r holl bwerau y mae’r llywodraeth wedi ei ddarparu i ni, pan fo’n briodol.
Os ydych chi’n dioddef oherwydd ymddygiad treisgar / aflonyddwch rhywiol, cysylltwch â’r Heddlu ac/neu eich Swyddog Lletya ar unwaith.
Sut gallaf adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi adrodd wrthym am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallwch:
- Ein ffonio
- Ymweld â’n swyddfa
- Ysgrifennu atom
- E-bostio
- Siarad ag aelod o staff ar safle
- Gofyn am ymweliad cartref
- Cwblhau ein ffurflen adrodd ar-lein
Pan fyddwch yn cysylltu â ni i adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd eich Swyddog Lletya yn ceisio cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith i drafod y mater.
Beth sy’n digwydd os/pan fyddaf yn adrodd am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
Bydd y swyddog sy’n delio gyda’ch cwyn am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) yn trefnu i’ch cyfweld, unai yn un o’n swyddfeydd, neu yn eich cartref. Mae hyn er mwyn ein galluogi i dderbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â’r mater.
Yn ystod y cyfweliad cychwynnol, bydd y Swyddog sy’n delio â’ch achos yn trafod yr opsiynau sydd ar gael er mwyn datrys y mater ac yn cwblhau cynllun gweithredu gyda chi. Bydd y cynllun gweithredu yn amrywio, yn dibynnu ar natur y gŵyn, ond bydd yn cynnwys cytundeb ynglŷn â pha mor aml y byddwn yn cysylltu â chi a pha gamau y byddwn yn eu cymryd i ymchwilio i’r gŵyn.
Efallai y bydd gan y Swyddog Lletya angen eich help i gasglu tystiolaeth o’r YG yr ydych yn ei ddioddef ac efallai y bydd yn gofyn i chi gadw dyddiaduron niwsans er mwyn nodi manylion y digwyddiadau. Mae copi o’r dyddiadur digwyddiad ar gael i’w lawr lwytho ar waelod y dudalen hon.
Byddwn yn trafod hyn ac yn dod i gytundeb gyda chi a bydd yn rhan o’r cynllun gweithredu. Bydd eich Swyddog Lletya yn datblygu cynllun gweithredu yr ydych chi’n gyfforddus gydag o ac yn eich diweddaru yn rheolaidd ynglŷn â’r camau a gymerwyd.
Bydd eich Swyddog Lletya yn cysylltu ag asiantaethau a sefydliadau eraill ar eich rhan os yw’n briodol er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn unrhyw gefnogaeth yr ydych ei angen. Mae adegau lle byddwn efallai yn cynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n achosi YG er mwyn eu cynorthwyo i newid eu hymddygiad.
Ein nod yw gwarchod eich cymdogaeth trwy gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n fygythiad i eraill, neu sydd wedi gwrthod ymatal rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Fel tyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch ein cynorthwyo ni i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyflawnwyr. Byddwn yn darparu cefnogaeth ddwys trwy gydol yr achos llys mewn amrywiol ffyrdd, megis:
- galwadau ffôn neu ymweliadau cartref cyson gan swyddog pwrpasol er mwyn trefnu ymweliadau cyn treial i’r llys er mwyn ymgyfarwyddo eich hunan gyda’r llys a beth fydd yn digwydd yn ystod y treial;
- trefnu trafnidiaeth i ac o’r llys ar ddiwrnod y treial, a darparu swyddog penodol i aros gyda chi trwy gydol eich ymweliad i’r llys;
- gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol megis Cymorth i Ddioddefwyr neu Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau fod gennych gefnogaeth ddigonol.
Cyfryngu
Rydym yn awyddus i ddatrys unrhyw anghydfod rhwng cymdogion mor fuan ag y bo modd ac felly rydym ni’n cynnig cyfle i’r preswylwyr hynny gymryd rhan mewn gwasanaeth cyfryngu. Rydym ni’n defnyddio gwasanaethau sefydliadau annibynnol sy’n gallu mynd i’r afael a datrys materion yn ddiduedd ac yn gyfrinachol, heb unrhyw gost i chi.
Mae cyfryngu yn fodd i ddau barti neu fwy ddatrys eu hanghydfod mewn modd heddychol. Rôl y cyfryngwyr sydd wedi eu hyfforddi yw cynorthwyo’r partïon i ddod i gytundeb gwirfoddol gyda’i gilydd, nid yw’r cyfryngwyr yno i ochri gyda neb nac i benderfynu pwy sy’n iawn, nac i feio neu benderfynu sut y dylid datrys yr anghydfod.
Y partïon, ac nid y cyfryngwr sy’n dod o hyd i ddatrysiad trwy drafodaeth a negydu.
Nid yw cyfryngu yn gyfreithiol orfodol ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw ymchwiliad cyfredol mewn perthynas â chŵyn.
Gellir darganfod mwy ynglŷn â chyfryngu yn ein taflen wybodaeth y gellir ei lawr lwytho ar waelod y dudalen hon.
Cyfiawnder Adferol
Mae Swyddogion Lletya wedi eu hyfforddi i gynnig cyfiawnder adferol. Fodd bynnag, os hoffech gael trydydd parti annibynnol i ddarparu cefnogaeth i chi, fe allwch gysylltu â Gwasanaeth Eiriolaeth. Cysylltwch â’ch Swyddog Lletya am fwy o wybodaeth.


