Tai Clwyd

Talu eich Rhent

Ceisiwn osod lefelau ein rhenti a’n tâl gwasanaeth mor isel â phosib tra’n sicrhau bod digon o arian yn dod i mewn i’n coffrau i ganiatáu i ni gynnig gwasanaethau o safon dda.

Mae croeso i chi ofyn am wybodaeth sy’n egluro lefelau’r costau rhenti a’r tâl gwasanaeth. Byddwn yn anfon pedwar datganiad rhent atoch yn flynyddol – yn Ebrill, Gorffennaf, Hydref ac Ionawr. Byddant yn cynnwys manylion am bob un o’r taliadau sydd wedi’u gwneud i’ch cyfrif rhent.
Cewch ofyn am gopi ychwanegol o’ch datganiad rhent unrhyw amser.

Pryd i dalu?

Mae’r rhent yn daladwy ymlaen llaw a dylid ei dalu unai ar ddydd Llun neu ar ddiwrnod cynta’r mis, neu, os hoffech, mae modd i chi dalu bob pythefnos, bob pedair wythnos neu fesul mis calendr, cyn belled â‘ch bod yn gwneud y taliadau ymlaen llaw.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn cadw i’ch taliadau?

Os nad ydych yn talu’r swm sy’n ddyledus ar y dyddiad priodol, byddwch yn mynd i ddyled gyda’ch rhent a byddwch yn torri amodau eich Cytundeb Tenantiaeth. Os digwydd hyn, bydd gan y Gymdeithas hawl i fynd a chi i’r llys a gall hynny achosi i chi gael eich troi allan o’ch cartref. Bydd rhaid i chi dalu’r rhent sy’n ddyledus a thalu costau’r llys i’r Gymdeithas. Fodd bynnag, os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Mae angen gadael i ni wybod hefyd os ydych yn rhagweld problemau, megis newid yn eich incwm. Mae’n bosib y byddwn yn medru eich cynghori a rhoi gwybodaeth a allai fod o gymorth i chi.
Cofiwch ofyn os ydych yn dymuno cael gwybod mwy am ein Polisi Dyledion Rhent.

EIN NOD YW DARPARU TAI I BOBL, NID TROI POBL ALLAN O’U TAI

Budd-Dâl Tai:

Os ydych ar incwm isel, gallwch gael cymorth i dalu eich rhent gan eich Cyngor lleol. Am ragor o fanylion, cysyllter â:
Sir Ddinbych 01824 706000
Conwy 01492 574000
Wrecsam 01978 292000
Sir Y Fflint 01352 702900
Powys 01938 551360
Gwynedd 01341 422341

Ffyrdd o dalu eich rhent

Fe allwch dalu eich rhent:-

  1. Drwy ddefnyddio eich cerdyn allpay.net yn y mannau sy’n dangos yr arwyddion Paypoint E-Pay, Payzone neu’r Swyddfa Bost. Am restr o fannau talu, dilynwch y linc ar dop y tudalen.
  2. Drwy debyd uniongyrchol – Gellir talu yn wythnosol, (unrhyw ddiwrnod Llun-Gwener) neu’n fisol ar y 1af, 18fed, 24ain o’r mis. Gallwch ffonio’r Gymdeithas ar 0845 230 3140 i sefydlu eich taliadau dros y ffon. Os nad yw hyn yn gyfleus, lawrlwythwch y mandad ar waelod y tudalen yma.
  3. Yn Swyddfeydd y Gymdeithas yn Ninbych neu’r Bala, unai trwy ymweld yn bersonol neu trwy anfon siec yn y post. Peidiwch ag anfon arian parod trwy’r post. (Sieciau yn daladwy i ‘Cymdeithas Tai Clwyd’ gyda rhif eich tenantiaeth wedi ei nodi ar y cefn)
  4. Dros y ffôn drwy ddefnyddio Cerdyn Debyd – Ffoniwch Allpay ar 0844 557 8321
  5. Ar wefan allpayments.net , dilynwch y linc ar dop y tudalen.

Lawrlwytho

T: 0345 230 3140 E: taiclwyd@taiclwyd.com
Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW

Cysylltwch â Ni

Oes gennych unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â ni.

Prif Swyddfa / Main Office
54 Stryd Y Dyffryn Dinbych LL16 3BW
T: 0345 230 3140
F: 0345 230 3145
E: taiclwyd@taiclwyd.com

Map

Swyddfa Ardal / Area Office
Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala, LL23 7SP
T: 0345 230 3150
F: 0345 230 3145
E: bala@taiclwyd.com

Map

Amseroedd Agor
Llun - Iau / 09:00 - 17:00. Gwener / 09:00 - 16:30